Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                    Mae’r Llywodraeth wedi nodi pryderon y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Fodd bynnag, ni wnaeth Defra ddarparu’r data o ran Lloegr, sy’n llywio datblygiad y ddeddfwriaeth, tan 13 Medi 2023. Yna, defnyddiodd swyddogion Llywodraeth Cymru y data hyn i lunio’r ffigurau Cymreig perthnasol, gan gwblhau’r broses hon ar 18 Hydref 2023. Cwblhawyd y broses hon ar 18 Hydref 2023. Yna, mae’n rhaid i’r Gorchymyn fynd drwy’r broses graffu gyfreithiol arferol a all gymryd hyd at 12 wythnos. Gwnaed y Gorchymyn ar 8 Ionawr ac fe’i gosodwyd ar 10 Ionawr 2024, cyn gynted ag y dychwelodd y Senedd ar ôl toriad y Nadolig.